divider

Un ateb i ddwy iaith

Mae LfB Cymru yn cynnig gwasanaeth cyfieithu Saesneg-Cymraeg a Cymraeg-Saesneg. Mae gennym flynyddoedd o brofiad ac wedi cael llwyddiant mawr yn y maes.

Fodd bynnag, mae gennym ragor na dim ond sgiliau iaith i'w cynnig. Mae tîm LfB Cymru yn cynnwys unigolion cyfeillgar, synhwyrol a pharod eu cymorth ac sy'n ymwybodol o'r heriau a wynebir gennych. Rydym yn deall y gall y gyllideb fod yn dynn; fod angen y gwaith ddoe; nad yw'r gwaith mor syml ag yw'n ymddangos; y bydd gennych gwestiynau; ac mai dim ond un yn unig o'r nifer o brosiectau sydd gennych ar y gweill yw hwn!

Beth bynnag fo'r dasg, yr amserlen, neu'r sefyllfa, gallwch ymddiried ynom i fod yn ddibynadwy, yn broffesiynol ac yn hawdd cydweithio â ni.